A close up of a logo  Description automatically generated           

 

 

Ymateb i ymgynghoriad:

Blaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd

Y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol

Medi 2021                                                                      

 

                                                                                                                 

                                                                                                               

 

                                                                                                     

 

 

                                                                                                                    

                                                      

 

 


Effaith COVID-19 ar y sector celfyddydau ieuenctid

1.    Am ymron i 18 mis hyd yma, mae’r mesurau cadw pellter cymdeithasol wedi tarfu’n ddifrifol ar hyfforddiant artistig pobl ifanc a bu’n rhaid canslo bron pob sesiwn hyfforddiant artistig wyneb yn wyneb. Mae Celfyddydau Ieuenctid Cenedlaethol Cymru wedi gweithio’n galed i ddarparu cyfleoedd hyfforddi a gweithdai digidol, yn yr un modd â llawer o ddarparwyr hyfforddiant celfyddydol eraill, ond fydd hyn byth cystal â hyfforddiant wyneb yn wyneb, sy’n hanfodol ar gyfer datblygiad perfformiwr.

2.    Bydd diffyg hyfforddiant wyneb yn wyneb wedi effeithio’n andwyol ar hyder nifer sylweddol o bobl ifanc, neu bydd rhai yn dioddef o iechyd meddwl gwael oherwydd effeithiau pellgyrhaeddol y pandemig. Rydym wedi buddsoddi amser ac adnoddau i sicrhau bod gan ein haelodau fynediad at sesiynau lles digidol yn ogystal â hyfforddiant ymarferol.

 

3.    Ein pryder yw y bydd nifer fawr o bobl ifanc yn colli hyder yn eu gallu i berfformio, neu’n gadael y sector yn gyfangwbl oherwydd diffyg hyder, pan fyddan nhw, mewn gwirionedd, wedi bod yn wynebu amgylchiadau hynod eithriadol. Mae gennym bryder gwirioneddol ynghylch sut bydd hyn yn effeithio ar ein cyflenwad o dalent, nid yn unig yn y flwyddyn nesaf, ond yn y 5-10 mlynedd nesaf, wrth i ddechreuwyr heddiw ddatblygu i fod yn artistiaid talentog. Credwn fod angen strategaeth genedlaethol a mwy o adnoddau i sicrhau bod pobl ifanc sydd wedi rhoi’r gorau i berfformio yn ystod y pandemig – ar bob lefel – yn cael eu hannog i ailddechrau ac i gael budd o’r celfyddydau perfformio unwaith eto, a’u bod yn cael yr hyder i wneud.

4.    Mae cyllid brys gan y Gronfa Adferiad Diwylliannol wedi bod yn hanfodol o ran sicrhau bod ein gwaith yn parhau drwy’r pandemig. Fodd bynnag, mae’r rhagolygon ar gyfer 2022 a thu hwnt yn parhau i ymddangos yn ansicr ar hyn o bryd, ac efallai bydd angen cymorth brys ychwanegol er mwyn sicrhau ein bod yn darparu gwaith ar gyfer pobl ifanc.

5.    Gwyddom eisoes y bydd effaith economaidd y pandemig yn cael ei theimlo waethaf gan deuluoedd incwm is, ac rydym yn ofni y bydd hyn yn arbennig o wir ym maes hyfforddiant celfyddydol. Mae perfformwyr ifanc ag anabledd hefyd yn fwy tebygol o fod wedi cael eu heffeithio gan broblemau iechyd corfforol a meddyliol yn ystod y cyfyngiadau symud, yn enwedig os ydynt wedi gorfod hunanwarchod. Heb gymorth penodol i'r grwpiau hyn, gallai hyn arafu'r gwaith presennol i helpu i sicrhau amrywiaeth yn sectorau'r celfyddydau.

6.    Rydym yn ymwybodol y bydd rhai pobl greadigol ac artistiaid llawrydd wedi gadael y sector yn ystod y pandemig, oherwydd yr ansicrwydd ariannol parhaus. Bydd angen cymorth ychwanegol, ar lefel genedlaethol, i gefnogi’r artistiaid llawrydd yn ôl i’r gwaith wrth i’r sector ailgychwyn ar y gwaith.

Blaenoriaethau ar gyfer gwaith y Pwyllgor

7.    Mae gallu dychwelyd i weithgareddau byw yn destun cyffro i ni, ond rydym yn llwyr ymwybodol bod y sector celfyddydol yn ei gyfanrwydd mewn sefyllfa fregus tu hwnt. Rydym yn pryderu’n fawr am weithwyr llawrydd yn y sector, sef y rhai sydd wedi dioddef mwyaf. Mae angen ateb penodol iawn ar y sector er mwyn sicrhau y gall gweithwyr llawrydd ddychwelyd i’r gwaith, yn enwedig y rheini o gefndiroedd incwm is a chymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

8.    Fel llawer o sefydliadau celfyddydol eraill, rydym o’r farn bod angen gwneud llawer mwy i sicrhau bod pobl ifanc o bob cefndir yn cael cyfleoedd yn y diwydiannau creadigol. Byddwn yn canolbwyntio amser ac adnoddau ychwanegol i gefnogi perfformwyr ifanc o gymunedau Du, Asiaidd ac ethnig amrywiol, a pherfformwyr ifanc ag anableddau. Mae hefyd yn bryder inni nad yw’r ddarpariaeth gelfyddydol wedi’i rhannu’n gyfartal ledled y genedl, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Byddwn yn eiriol dros ddull sector gyfan o weithredu er mwyn sicrhau bod pob person ifanc yn cael ei annog i gymryd rhan.

9.    Mae’r cynlluniau arfaethedig ar gyfer Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol i Gymru hefyd o ddiddordeb arbennig inni, a’r modd y bydd hyn yn helpu i wella’r ddarpariaeth gerddorol ledled Cymru, a sut bydd yn annog pobl ifanc i ailddechrau’r broses o ddysgu offeryn os ydyn nhw wedi rhoi’r gorau i wersi yn ystod y pandemig. Gwasanaethau cerddorol yw asgwrn cefn cerddoriaeth ieuenctid yng Nghymru, ac mae’n chwarae rôl ffurfiannol hanfodol yn natblygiad cerddorion ifanc.

10. Mae’r diwydiannau creadigol wedi cael dylanwad aruthrol o bositif ar fywydau pobl Cymru – ar eu hiechyd a’u lles, ar yr economi a sgiliau, ac fel rhan o’n bywyd diwylliannol. Hoffem weld gwerthusiad pellach o’r celfyddydau a’u heffaith ar ein hiechyd a’n lles, ac ar yr economi, i sicrhau bod y diwydiannau creadigol yn parhau i gael eu gweld fel rhan annatod o fywyd yng Nghymru.

Effaith Brexit ar y sector celfyddydau ieuenctid

11. Fel llawer o sefydliadau celfyddydol rydym yn awyddus i weithio gyda gweithwyr creadigol talentog o bob cwr o’r byd – gan gynnwys arweinyddion, unawdwyr, coreograffwyr a chyfarwyddwyr theatr. Rydym o’r farn y gall aelodau ifanc feithrin profiad heb ei ail o weithio gydag ystod eang o artistiaid rhyngwladol.

12. Heb system fisa hyblyg ar gyfer perfformwyr teithiol, mae ein gallu i weithio gyda’r artisitiaid hyn yn gyfyngedig iawn. Byddem yn annog y Pwyllgor a Llywodraeth Cymru i ddwyn Llywodraeth y DU i gyfrif ar y mater hwn, gan sicrhau bod artistiaid sy’n teithio i Gymru ac i’r DU yn gallu teithio’n ddilyffethair.

 

Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru

13.Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yw'r elusen genedlaethol ar gyfer actorion, dawnswyr a cherddorion dawnus a thalentog rhwng 16 a 22 oed ledled Cymru. Bob blwyddyn rydym yn gweithio gyda thua 800 o bobl ifanc, drwy gyfleoedd hyfforddi a pherfformio eithriadol yn y celfyddydau.

 

14.Ers ei sefydlu yn 2017, mae CCIC wedi ehangu ei waith y tu hwnt i'r chwe ensemble ieuenctid cenedlaethol, ac mae bellach yn cynhyrchu amrywiaeth o brosiectau datblygu sydd wedi'u cynllunio i wella mynediad at hyfforddiant lefel uchel. Mae hyn yn cynnwys Cerdd y Dyfodol, cynllun mentora cenedlaethol cyntaf Cymru i gerddorion roc a phop mewn ysgolion.

 

15.Mae CCIC hefyd yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth ieuenctid, gan gynnwys cynllun Cynhyrchwyr dan hyfforddiant blynyddol, lle telir y Cyflog Byw Gwirioneddol, a gynlluniwyd i helpu graddedigion ifanc o deuluoedd incwm is i ymuno â gweithlu'r diwydiannau creadigol. Rydym hefyd yn cyflogi cannoedd o weithwyr llawrydd bob blwyddyn i helpu i gyflwyno ein rhaglen o weithgareddau ledled Cymru.